Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 15 Gorffennaf 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.00 - 10.49 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar AC (Cadeirydd) William Graham AC Mike Hedges AC Alun Ffred Jones AC Julie Morgan AC Jenny Rathbone AC Aled Roberts AC Sandy Mewies AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Matthew Mortlock, Swyddfa Archwilio Cymru Dave Thomas, Swyddfa Archwilio Cymru Mike Usher, Swyddfa Archwilio Cymru Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Michael Kay (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1 Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
1.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf.
1.2 Cytunodd yr aelodau i gynnal darn ehangach o waith ar drefniadau llywodraethu byrddau iechyd ar ôl cyhoeddi adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar gyllid iechyd a dangosyddion allweddol ar berfformiad gwasanaeth.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
2 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r Pwyllgor.
2.2 Datganodd Jenny Rathbone fuddiant fel Cadeirydd y Pwyllgor Monitro Rhaglenni, datganodd Alun Ffred Jones fuddiant fel aelod o Gyngor Prifysgol Bangor, a datganodd Sandy Mewies fuddiant fel Cymrawd Prifysgol Glyndŵr.
3 Papurau i’w nodi
3.1 Nodwyd y papurau.
· Cytunwyd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn awgrymu bod y Pwyllgor yn monitro nifer o faterion a godwyd gan yr Aelodau ar gyllid addysg uwch. Cytunodd Swyddfa Archwilio Cymru i baratoi nodyn briffio ar ddileu dyledion sy’n gysylltiedig â llyfr benthyciadau.
· Bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am Argymhelliad 5 o strategaeth leoli Llywodraeth Cymru yn dilyn yr adolygiad y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn ddiweddarach eleni.
3.1 Cyllid Addysg Uwch
3.2 Strategaeth leoli Llywodraeth Cymru: Llythyr gan yr Ysgrifennydd Parhaol (23 Mehefin 2014)
3.3 Ymdrin â’r Heriau Ariannol sy’n wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru: Llythyr gan Steve Thomas, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (8 Gorffennaf 2014)
3.4 Swyddfa Archwilio Cymru: Y Diweddaraf am Raglen Waith Gwerth am Arian yr Archwilydd Cyffredinol (9 Gorffennaf 2014)
4 Trefniadau cyflenwi ar gyfer absenoldeb athrawon: Trafod yr ymateb gan Lywodraeth Cymru
4.1 Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru. Cytunwyd y bydd y Cadeirydd yn ateb y Gweinidog ar Argymhellion 1, 3 a 13. Bydd y Pwyllgor yn trafod y mater eto yn 2015 ar ôl cael y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru.
5 Rheoli Grantiau yng Nghymru: Ystyried gohebiaeth
5.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunodd i drafod y mater eto yn ystod gwanwyn 2015 pan fydd adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar reoli grantiau ar gyfer 2014/15 ar gael.
5.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol yn gofyn am ragor o wybodaeth am werth grantiau yr effeithir arnynt yn dilyn achosion o ddiffyg cydymffurfio ar ôl yr archwiliadau dirybudd.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
7 Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant: Papur briffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru
7.1 Rhoddodd yr Archwilydd Cyffredinol wybodaeth lafar i Aelodau am ei adroddiad a gyhoeddwyd ar 10 Gorffennaf.
7.2 Cytunodd Aelodau i ofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru ac i drafod y mater eto yn yr hydref.
7.3 Cytunodd yr Aelodau hefyd y dylai’r Cadeirydd ysgrifennu at y Pwyllgor Menter a Busnes yn gofyn a fydd yn gwneud unrhyw waith pellach ar y mater hwn.
8 Y Fenter Dwyll Genedlaethol 2012-13: Papur briffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru
8.1 Rhoddodd yr Archwilydd Cyffredinol wybodaeth lafar i Aelodau am ei adroddiad a gyhoeddwyd ar 12 Mehefin.
8.2 Gwnaeth Aelodau nodi a chroesawu’r adroddiad a chytunodd y dylai’r Cadeirydd ysgrifennu at Gartrefi Cymunedol Cymru a Sefydliadau Addysg Bellach ac Uwch i’w hannog i gymryd rhan yn y Fenter Dwyll Genedlaethol.
8.3 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am Argymhelliad 3 yn adroddiad y Pwyllgor ar Reoli Grantiau ynghylch achosion o dorri’r Cod Ymarfer ar gyfer ariannu’r trydydd sector, a’u hatgoffa y dylai manylion o unrhyw achosion o’r fath gael eu cynnwys yn yr adroddiad rheoli grantiau blynyddol.
9 Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru - Caerdydd i Ynys Môn: Cytuno ar yr adroddiad terfynol
9.1 Gwnaeth yr Aelodau ystyried a derbyn yr adroddiad.
10 Adroddiad Blynyddol 2013/14: Cytuno ar yr adroddiad terfynol
10.1 Gwnaeth yr Aelodau ystyried a derbyn yr adroddiad.
11 Blaenraglen waith: Hydref 2014
11.1 Nododd yr Aelodau y rhaglen waith ar gyfer tymor yr hydref 2014.